Myfyrwyr rhyngwladol

Fel myfyriwr PDC, mae Gyrfaoedd PDC yn rhoi amrywiaeth o gymorth i chi yn ystod eich astudiaethau ac ar ôl graddio. 

Gweithio a byw yn y DU 

Yma, cewch amrywiaeth o adnoddau ar-lein a fydd yn helpu i chwilio am swyddi (yn y DU a thramor) ac ymchwilio i gyflogwyr yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am fisâu a chael rhif Yswiriant Gwladol. 

  • Canfod swyddi rhan-amser a hysbysebir drwy system swyddi gwag gyrfaoedd PDC, sef Unilife Connect
  • Mae Gyrfaoedd PDC yn trefnu'r ffeiriau swyddi rhan-amser ar ddechrau mis Hydref gyda chyflogwyr lleol yn mynd ati i recriwtio myfyrwyr ar gyfer rolau rhan-amser. 
  • Digwyddiadau i gyflogwyr - edrychwch ar ddigwyddiadau gyrfaoedd PDC drwy gydol y flwyddyn am gyflogwyr sy'n ymweld â PDC.

  • Targedu cyflogwyr yn uniongyrchol - dull arall yw targedu cyflogwyr yn uniongyrchol e.e. Boots*.  Defnyddiwch yr adran hon o'u gwefan i chwilio am swyddi rhan-amser neu dros dro yn eu siopau yng Nghaerdydd neu yn lleol. 
  • Efallai na fydd y wybodaeth hon wedi’i chynnwys ar wefannau cyflogwyr llai felly mae angen dull mwy uniongyrchol yn aml.  Anfonwch CV wedi'r dargedu a llythyr clawr yn dangos eich addasrwydd. 
  • Siarad â ffrindiau - a oes gan unrhyw un o'ch ffrindiau swydd ran-amser?  Efallai y byddant yn gwybod os yw eu cyflogwr yn chwilio am fwy o staff.
Rheoliadau cyflogaeth

I gael rhagor o wybodaeth am reoliadau cyflogaeth sy'n effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol, ewch i wefan ‘UK Council for International Student Affairs' (UKCISA) Can you work?  Can you work?*

Dogfen yn cynnwys gwybodaeth am gyflogwyr sy'n gallu noddi mewnfudwyr - yn manylu ar y categori y mae ganddynt hawl i'w noddi a'u sgôr noddi


Register of sponsors

Gallwch chwilio drwy'r ddogfen hon drwy wasgu CTRL ac F neu drwy ddefnyddio'r opsiwn 'find on page’ ar eich dyfais symudol.

Nodi cyflogwyr yn y DU a allai gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhyngwladol 

  • Ni all Gyrfaoedd PDC gynhyrchu rhestr o gyflogwyr a fydd yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr a graddedigion rhyngwladol ond rydym yn darparu cyngor ar ffyrdd posibl o nodi a thargedu cyflogwyr o'r fath. 
  • Mae rhai swyddi i raddedigion yn y DU yn agored i bob ymgeisydd sydd â chymwysterau addas beth bynnag fo'u cenedligrwydd.  
  • Mae swyddi gwag eraill yn targedu grwpiau penodol o fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer gwaith mewn marchnadoedd swyddi tramor.  Yn ogystal, efallai y bydd rhai cwmnïau am recriwtio myfyrwyr rhyngwladol am eu bod am ehangu neu ddatblygu eu cysylltiadau masnach rhyngwladol.   
  • Gall Siambrau Masnach Prydain yn aml fod yn ffynhonnell dda i'ch helpu i nodi cwmnïau o'r fath.  
  • Edrychwch hefyd ar dueddiadau newydd y farchnad yn eich mamwlad a nodi cyflogwyr yn y DU a all fod â chysylltiadau masnach, swyddfeydd neu ganghennau yn eich gwlad gartref neu dramor.
  • Mae rhai cyflogwyr yn y DU yn barod i ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr a graddedigion rhyngwladol yn enwedig os yw'r gwaith mewn maes lle mae prinder, yn ôl diffiniad Llywodraeth y DU. Maeg gan  Fisâu a Mendfudo' DU* restr o feysydd diffyg galwedigaethol yn y DU. 

Safleoedd swyddi sy'n ymwneud ag iaith yn y DU

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio eich sgiliau iaith edrychwch ar y safleoedd swyddi a ganlyn yn y DU sy'n gysylltiedig ag iaith: 

Top Language Jobs*
Multi lingual vacancies*
1st 4 Jobs in London*
The Language Business*

Gweithio dramor 

Proffiliau gwlad sy'n manylu ar y gofynion i weithio mewn gwahanol wledydd o amgylch y byd, gan edrych ar ofynion fisa, sut i wneud cais am swyddi a ble i ddod o hyd i swyddi gwag- 

Mae gan Indeed* hefyd safle byd-eang lle gallwch chwilio am safleoedd wedi'u hidlo yn ôl lleoliad.

Esbonio cymwysterau rhyngwladol i gyflogwyr 

Ni fydd pob cyflogwr yn deall sut mae eich cymwysterau'n cymharu â chymwysterau'r DU.  Nid oes rhestr swyddogol ar gael o sut mae graddau neu bwyntiau tariff y DU yn cymharu, ond gallwch gael cymhariaeth gyffredinol o'ch cymhwyster o ganolfan wybodaeth genedlaethol cydnabyddiaeth academaidd ar gyfer y DU. Ewch i NARIC*  i gael gwybodaeth am wasanaethau a chostau.  Gallwch hefyd gysylltu â nhw ynghylch cymharu cymwysterau dros y ffôn: + 44 (0) 871 330 7033

Gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr Mewnfudo a Rhyngwladol PDC 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth gan Gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr Mewnfudo a Rhyngwladol PDC.

Cael gafael ar gyngor arbenigol ar gyfraith mewnfudo a gofynion a chyfyngiadau fisa, yn ogystal â chyngor ar lesiant myfyrwyr a byw yn y DU.

Hefyd dysgwch fwy am ddigwyddiadau cymdeithasol a phrosiect Cynorthwywyr Byd-eang PDC. 


Nodwch - Cynnwys Allanol 

Mae'r cynnwys allanol wedi'i farcio â seren *Nid yw PDC yn gyfrifol am gynnwys, ansawdd nac argaeledd y cynnwys hwn, ac mae'r myfyrwyr eu hunain yn gyfrifol am gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau a all fod yn berthnasol.