10-11-2022
Sefydlwyd Flawsome! yn 2018 gan Karina, myfyriwr graddedig BSc Rheoli Adnoddau Dynol; a Maciek, myfyriwr graddedig LLM Y Gyfraith ar ôl iddynt weld bwlch yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion iachach, mwy blasus a fyddai’n helpu i arbed gwastraff bwyd.
Aeth Karina a Maciek ar daith i fferm leol a darganfod, yn syfrdanol, bod 3.7 triliwn o afalau yn cael eu gwastraffu yn fyd-eang oherwydd safonau esthetig neu aneffeithlonrwydd cadwyn gyflenwi. Rhoddodd hyn syniad iddynt ddechrau prynu ffrwythau dros ben a rhyfedd eu siâp wedi’u gorgynhyrchu gan ffermwyr o fewn 30km i’w gofod cynhyrchu, a’i drawsnewid yn sudd wedi’i wasgu’n oer heb unrhyw siwgr ychwanegol.
Ers 2018, maen nhw wedi bod yn dod â phobl at ei gilydd ac yn annog newid cadarnhaol - nawr yn arbed dros 3 miliwn o ffrwythau! Mae pob potel a chan Flawsome! yn cynnwys o leiaf 2 ffrwyth a arbedwyd rhag cael eu taflu.
Bellach yn Gorfforaeth Ardystiedig B, nod Flawsome! yw arbed 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau dros ben, rhyfedd eu siâp mewn 5 mlynedd, a rhoi 1,000,000 o ddiodydd i elusennau yn y DU i helpu plant, teuluoedd, ac eraill sy'n wynebu newyn.
Mae Flawsome yn darparu cyflenwadau i siopau mawr fel Morrisons, Sainsbury's, WH Smith, a mwy. Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn cadw eu cynnyrch mewn mannau gwerthu bwyd o amgylch pob campws. Edrychwch ar eu gwefan a dilynwch nhw ar Facebook, Twitter, Instagram, YouTube, a LinkedIn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein gwefan am ragor o wybodaeth am sesiynau un-i-un, mwy o gyllid, adnoddau a llawer mwy!
Fel bob amser, byddwn yma trwy gydol y flwyddyn i'ch cefnogi gyda chyngor ac ymholiadau.
Anfonwch e-bost atom yn [email protected] a dilynwch @EnterpriseUSW ar Twitter a Facebook i gael y diweddariadau diweddaraf.
07-03-2023
05-12-2022
17-11-2022
17-11-2022
10-11-2022
03-11-2022
27-10-2022
13-10-2022
11-10-2022