Dathlu ein Hentrepreneuriaid Graddedig - Gaby Di Salvo! 🎨

gaby

Ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, rydym yn dathlu entrepreneuriaid graddedig PDC sy’n agos ac yn bell. Yma mae gennym Gaby Di Salvo, Sylfaenydd Grow Up Gaby, yn dod â ni ar daith gyda'i siop anrhegion cadarnhaol!

Astudiodd Gaby y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ar gampws Trefforest, ac roedd yn mynd trwy amser caled gyda’i hiechyd meddwl. Ni allai ddod o hyd i unrhyw gynnyrch a oedd o gymorth, felly creodd nwyddau fel mygiau cadarnhaol, matiau diod positif a phadiau nodiadau cofnodi a'u rhestru ar Etsy.

il_1140xN.3025247647_sxcy

"Rhestrais y cynhyrchion hyn - doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gwerthu hyd yn oed un, ond flwyddyn yn ddiweddarach, rydw i wedi gwerthu bron i 3,500 o fygiau. Mae'n dal i fod yn dipyn o sioc i mi oherwydd es i amdani'n llythrennol ac wedi cymryd cam mor fach o ran cychwyn ar fy nhaith fusnes ac mae wedi mynd mor dda.”

Mae rhedeg busnes gyda heriau iechyd meddwl yn eithaf anodd ar adegau, ond dywed Gaby ei fod yn cael effaith gadarnhaol sylweddol hefyd. “Rwy’n magu hyder, yn herio fy hun, yn gwthio fy ffiniau, yn mynd allan o fy mharth cysur ac mae fy hunan-barch wedi gwella’n arw ers i mi gael busnes.”

Os symudwn yn gyflym i'r dyfodol, cafodd Gaby gyfle i siarad â’r Tywysog Siarl a siarad am ei busnes!

661DSC04996 Mission Photographic.jpg

Cymerodd Gaby ran yn Academi Llawryddion PDC yn ôl yn 2019, ac o'r profiad hwnnw llwyddodd i gwrdd â pherchnogion busnes newydd a rhwydweithio â nhw. Llwyddodd hefyd i gael cyllid i'w helpu i fuddsoddi ac adeiladu ei busnes.

"Es i'r Academi Llawryddion a gallaf ddweud yn hollol onest mai dyma oedd un o'r amseroedd gorau i mi ei gael erioed. Mae'r sesiynau yn llythrennol yn cwmpasu popeth ac mae cyllid a threth yn fannau gwan i mi, ond maent yn llythrennol yn cwmpasu eich holl wendidau. Byddwn yn cynghori unrhyw fyfyriwr i fynd i'r Academi Llawryddion os oeddent am sefydlu busnes. Dyna sut y dechreuodd fy musnes a dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yma nawr heb eu cefnogaeth."

Edrychwch yn ôl ar gyfweliad Gaby yn ein #SylwarGychwynBusnesPDC isod, a chefnogwch hi ar EtsyInstagramTwitter a Facebook!



Ymunwch â chymuned #GEW2022 i ddathlu entrepreneuriaeth a dysgu sut i ddechrau, cyflwyno a sicrhau cyllid i brofi, dechrau, tyfu a chreu eich syniadau.


Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein gwefan am ragor o wybodaeth am sesiynau un-i-un, mwy o gyllid, adnoddau a llawer mwy!

Register Now (W)

Cofion

Tîm #MenterPDC 😎

Fel bob amser, byddwn yma trwy gydol y flwyddyn i'ch cefnogi gyda chyngor ac ymholiadau.

Anfonwch e-bost atom yn [email protected] a dilynwch @EnterpriseUSW ar Twitter a Facebook i gael y diweddariadau diweddaraf.

Facebook    Twitter    Email.png

#Mentermyfyrwyr #Gyrfaoedd