Dathlu ein Hentrepreneuriaid Graddedig - Ellie Hennessy

FiE2skVXoAUaFZ9

Critters & Pet Sitters


Un o’n llwyddiannau diweddar i Raddedigion yw Ellie Hennessy a raddiodd gyda BSc mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid o Goleg Gwent, Brynbuga ym mis Mehefin 2022. Wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, lansiodd Ellie ei gwasanaeth cerdded cŵn a gwarchod anifeiliaid anwes ym mis Hydref 2022. 


Gwnaeth gais i BID am gyllid i'w galluogi i ehangu ei busnes a chynnig gwasanaeth unigryw - lletya anifeiliaid anwes egsotig gartref. 

Yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus, dyfarnwyd cyllid i Ellie i brynu fifariwm, cawell adar a chawell mamaliaid bach ac i gael gwiriad DBS, hyfforddiant cymorth cyntaf cath a chŵn a thrwydded lletya cartref. 


Dywedodd Ellie wrthym “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb yn Menter PDC oherwydd heboch chi ni fyddwn yn gallu cynnig fy ngwasanaeth newydd. Roeddwn yn nerfus iawn i gynnig, fodd bynnag, gwnaeth y beirniaid i mi deimlo'n gartrefol. Nid yn unig y mae’r cyllid wedi bod o gymorth mawr ond mae’r arweiniad a’r cymorth gan staff Menter PDC wedi helpu fy musnes bach i ffynnu”. 

Cynigiodd y cyngor hwn “Os ydych chi'n fyfyriwr graddedig neu'n fyfyriwr sy'n ystyried cychwyn eich busnes eich hun, ewch amdani! Mae cymaint o gymorth ar gael felly peidiwch byth â theimlo'n unig. Gall deimlo'n frawychus ond ni ddaw dim byd da yn hawdd. Cyn belled â'ch bod yn angerddol ac yn ymroddedig i'ch syniad busnes byddwch yn mynd yn bell! 

Ychwanegodd “Ni allaf ddiolch digon i’r tîm Menter am y cymorth a’r anogaeth y maent wedi’u rhoi, nid yn unig y gallwch gael cyllid o bosibl ond hefyd y budd o gyngor rhad ac am ddim gan weithwyr proffesiynol felly ni waeth beth yw eich canlyniad, mae’n fantais”. 


Cofrestrwch Eich Diddordeb i gael diweddariadau ar ddigwyddiadau Menter ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr misol!


#Mentermyfyrwyr #Gyrfaoedd