Rhaglen Graddedigion Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru: byddwn yn cynnal Sesiwn Twitter i ateb eich cwestiynau a siarad â hyfforddeion cyfredol am eu profiad

Twitter Takeover - Welsh - Graph_.png

Ar ddydd Iau 15 Hydref, rhwng 12:30 a 2.30pm bydd myfyrwyr yn gallu gofyn cwestiynau, cael gwybod mwy am y rhaglen a siarad gyda hyfforddeion presennol am eu profiadau, a derbyn cyngor.

Rhaglen dwy flynedd yn y gwaith yw Rhaglen Graddedigion Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy'n cynnwys rhaglen Meistr wedi'i hariannu'n llawn. 

Mae'r llwybr gyrfa cyflym hwn yn agored i ymgeiswyr sy'n angerddol ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni neu ragweld y byddwch yn derbyn o leiaf 2: 2 mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd (a ddyfarnwyd erbyn Gorffennaf 2021) a bod â chaniatâd i fyw a gweithio yn y DU, heb unrhyw gyfyngiadau.  

Byddwch yn wynebu amrywiaeth o wahanol heriau a fydd yn sicrhau bod system gofal iechyd modern, blaengar o safon fyd-eang yn parhau i gael ei darparu yng Nghymru.

Mae'r ceisiadau ar gyfer y rhaglen yn cau ddydd Mercher 28 Hydref 2020. 

Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy am y rhaglen, cael eich ysbrydoli gan hyfforddeion blaenorol a dysgu mwy am y broses ymgeisio: https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/grad-programmes  

Ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiwn Twitter yn: https://twitter.com/HEIW_NHS


 


#Gyrfaoedd