27-07-2020
Cyn bo hir bydd y Brifysgol yn lansio ei rhaglen graddedigion Springboard 2030 PDC sydd ar eich cyfer chi yn unig, graddedigion Dosbarth 2020 PDC.
Bydd sawl cyfle taledig yn gweithio ar brosiectau ledled y Brifysgol a fydd o fudd gwirioneddol i chi ac a fydd yn gyfle gwych i chi ddefnyddio'ch sgiliau ac ennill rhywfaint o brofiad rhagorol.
Bydd interniaethau am 4 mis (neu gyfwerth os yn rhan-amser) a byddwch hefyd yn elwa o raglen lawn o hyfforddiant a datblygiad, gan gynnwys y Wobr ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Bydd y cais am raglen graddedigion Springboard 2030 PDC trwy CV a llythyr eglurhaol, felly efallai yr hoffech chi hogi eich un chi!
Mae adnoddau gwych ar y wefan gyrfaoedd i'ch helpu gyda hyn gan gynnwys ein hadnoddau ar CVs a Llythyrau Eglurhaol. Gallech hefyd drefnu apwyntiad gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd neu ddefnyddio'r gwasanaeth Gofyn Cwestiwn ar y we i gael adborth ar eich llythyr eglurhaol a'ch CV.
"Penderfynais ei fod yn edrych fel cyfle
gwych i mi fel myfyriwr graddedig marchnata weithio o fewn tîm cyswllt ysgolion
a cholegau a marchnata a recriwtio myfyrwyr ... mae hyn wedyn wedi arwain at
sicrhau swydd fwy parhaol o fewn y tîm." Laura Davis, BA Marchnata
06-05-2021
09-11-2020
09-11-2020
28-10-2020
28-10-2020
19-10-2020
13-10-2020
12-10-2020
09-10-2020