Cyfleoedd i fyfyrwyr awtistig

WorldAutismWeek_W

Mae Gyrfaoedd PDC yn dathlu:
Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 27 Mawrth – 2 Ebrill
Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2 Ebrill

Rydym yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd a Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd ac wedi dod â rhai cyfleoedd at ei gilydd i fyfyrwyr awtistig ddathlu eu cryfderau a datblygu hyder gyrfa.

Cyfle interniaeth Gwasanaeth Sifil i bobl ifanc awtistig

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn eu gweithlu ac yn cydnabod cryfderau gweithwyr awtistig. Felly, maent yn cynnig 100 o interniaethau i bobl ifanc awtistig sydd am ddod ag atebion arloesol i faterion cymdeithasol. Dysgwch fwy am yr interniaethau a sut i wneud cais yma: https://bit.ly/ambitiousaboutautism 

Gwnewch gais erbyn dydd Llun 3 Ebrill.

Os hoffech gael rhywfaint o help gennym ni i wneud cais, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy e-bostio: [email protected] neu lenwi ein ffurflen cysylltu â mi: https://bit.ly/uswcareersplus 


Hyfforddiant Cyflogadwyedd a phrofiad gwaith

Rydym yn dathlu’r sgiliau a’r cryfderau gwych y mae pobl awtistig yn eu cynnig i’r gweithle. Rydym yn herio’r rhagdybiaethau sydd gan gyflogwyr am yr hyn na all gweithwyr awtistig ei wneud. Rydym yn sicrhau bod addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer pobl awtistig fel nad oes unrhyw rwystrau i gyflawni potensial a chynyddu cryfderau.

Os ydych yn fyfyriwr awtistig ac yn dymuno cael cymorth i fagu hyder i baratoi ar gyfer gwaith neu i gael mynediad at waith nawr neu yn y dyfodol, cysylltwch â’n Hyfforddwyr Cyflogadwyedd drwy e-bostio: [email protected] neu lenwi ein ffurflen cysylltu â mi https://bit.ly/uswcareersplus. Gallwn hefyd eich helpu i gael profiad gwaith.


Cwrs sgiliau cyflogadwyedd ar-lein 

Rhowch gynnig ar y cwrs ar-leinhwn os ydych chi'n fyfyriwr awtistig neu'n fyfyriwr graddedig ac â diddordeb mewn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd. Gallwch ei gwblhau yn eich amser eich hun. Bydd yn eich helpu i ystyried eich cryfderau a'ch anghenion fel person awtistig, meddwl am addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch, gwella'ch gallu i ddod o hyd i swydd sy'n iawn i chi a'i chael, ac i fyfyrio ar eich dysgu. Datblygwyd y cwrs gan dîm o arbenigwyr, gan gynnwys graddedigion awtistig a mentoriaid gwaith.  https://bit.ly/udemyemployability


#Gyrfaoedd