Cronfa Cychwyn Busnes Springboard 2023

Mae Rownd Pump o gronfa Cychwyn Busnes Springboard yn cael ei lansio yr wythnos nesaf.

Nod y gronfa hon yw cefnogi entrepreneuriaeth graddedigion yn PDC ac, yn benodol, darparu cyllid sbarduno i raddedigion PDC i ddechrau busnes newydd.

Gwahoddir graddedigion o 2020 i 2023 i wneud cais. Mae dyfarniad 2023 yn amodol ar radd llwyddo ar gyfer graddedigion eleni.

Mae ceisiadau yn agor ar 1 Mai, ac yn cau am 10am ddydd Mawrth 30 Mai.

Lefelau dyfarniad

  • Uchafswm y dyfarniad hyd at £5,000 (ar gyfer ceisiadau eithriadol)
  • Mae dyfarniadau llai yn debygol o fod rhwng £1,000 a £3,000

 Cymhwysedd

  • Wedi graddio o PDC rhwng 2020 a 2023 (wedi cwblhau eu cwrs erbyn 31 Mai 2023).
  • Meddu ar syniad busnes newydd sy'n barod i ddechrau masnachu o fewn o leiaf chwe mis o ddyfarniad cyllid, neu eu bod o fewn y chwe mis cyntaf o fasnachu.

Meini Prawf Asesu

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan gwmnïau cychwyn busnes graddedigion neu lawryddion sydd yn:
  • Dangos tystiolaeth o syniad busnes arloesol gyda marchnad/cwsmeriaid wedi’i phrofi.
  • Dangos y tebygolrwydd o dwf yn y dyfodol agos i greu swyddi.
  • Ceisio cael eich lleoli yn y Startup Stiwdio Sefydlu newydd ar Gampws Trefforest, neu Startup Stiwdio Sefydlu ar Gampws Casnewydd.
  • Dangos tystiolaeth glir o'r angen ariannol am y dyfarniad.

Dull Ymgeisio

Cyflwyno Cynllun Busnes Cryno Gweithredol (uchafswm o dair tudalen), gan gynnwys manylion pam fod angen y grant.

Tystiolaeth ategol, megis prototeip o gynnyrch neu wasanaeth, sampl o ffilm neu fideo, neu ddyluniadau cysyniad.

Bydd ceisiadau ar y rhestr fer wedyn yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth cyflwyno syniad. Cynhelir hwn ar ddydd Iau 9 Mehefin yn Stiwdio Campws Trefforest.

Gellir dod o hyd i ffurflenni cais yma. Bydd ceisiadau yn agor ar 1 Mai 2023: https://bit.ly/SpringboardStartUp5

Panel Beirniadu Cynigion

Y Cadeirydd yw Richie Turner, Rheolwr Deorfa PDC, ynghyd ag entrepreneuriaid llwyddiannus o Gymru, gan gynnwys o leiaf un entrepreneur graddedig o PDC, a staff eraill PDC.

Cymorth ac arweiniad

Os oes angen cymorth neu arweiniad arnoch i gyflwyno cais, ebostiwch [email protected]Cefnogir ceisiadau ar y rhestr fer i ddatblygu eu syniadau trwy ein hadnoddau cyflwyno syniad ar-lein pwrpasol.

#Mentermyfyrwyr #unilfe_cymraeg #Gyrfaoedd