02-03-2023
Dewch i gwrdd â’r prif recriwtwyr graddedigion wyneb yn wyneb sy’n recriwtio’n weithredol ar gyfer eu swyddi graddedigion a lleoliadau blwyddyn mewn diwydiant / haf sy’n dechrau yn haf 2023.
Mae'r wefan ar gyfer Ffair Recriwtio y Gwanwyn bellach yn fyw gyda manylion y prif recriwtwyr graddedigion sydd wedi cadarnhau eu bod yn mynychu. Cynhelir y digwyddiad ar Gampws Trefforest yn y Canolfan Gynadledda ddydd Iau 16 Mawrth.
"Yn ogystal â'n noddwyr digwyddiadau - Venture Graduates a Precision Resource Group, mae gennym ystod wych o recriwtwyr graddedig blaenllaw wedi’u cadarnhau ar gyfer y digwyddiad." meddai Matthew Evans, Rheolwr Tîm Gyrfaoedd.
"Mae hwn yn ddigwyddiad allweddol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n chwilio am swyddi graddedigion, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn sydd â diddordeb mewn lleoliadau a chyfleoedd profiad gwaith eraill."
"Byddwn i'n cynghori myfyrwyr i gael y gorau o'r digwyddiad dylent ymweld â gwefan y Ffair i adnabod y cyflogwyr maen nhw eisiau siarad â nhw ar y diwrnod, gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw.
Bydd y Ffair yn brysur a byddwch am wneud yn siŵr eich bod yn cael digon o amser i siarad â'r holl gyflogwyr yr ydych am eu cyfarfod."
"Nodwch y dyddiad hwn yn eich dyddiadur nawr neu archebwchymlaen llaw ar CareersConnect ac fe anfonwn neges atgoffa atoch."
"Rydym yn ceisio lleihau effaith amgylcheddol ein digwyddiadau a byddwn yn lleihau ein hargraffu copi caled drwy wneud rhaglen electronig ar gael ar wefan y digwyddiad, byddwn hefyd yn ceisio lleihau'r swm o blastig untro yn y digwyddiad ac rydym yn annog cyflogwyr i rannu ceir neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.
Bydd y Ffair ar agor rhwng 11.00am a 3.00pm ddydd Iau 16 Mawrth ac mae manylion llawn am y digwyddiad, yr arddangoswyr, a'u cyfleoedd ar gael ar wefan y digwyddiad.
Awr Dawel - 14:00-15:00 - Gwahoddir myfyrwyr ag anableddau (gan gynnwys ASC) a materion iechyd meddwl (gan gynnwys pryder) i fanteisio ar yr “Hanner Awr Dawel” lle gallant gwrdd â chyflogwyr mewn awyrgylch tawelach a mwy hamddenol.
Cofrestrwch eich diddordeb i fynychu'r Ffair
Derbyniwch y newyddion, gwybodaeth a diweddariadau diweddaraf ar unrhyw ychwanegiadau munud olaf i’r Ffair.
(Nid yw'n ofynnol cofrestru o flaen llaw, gallwch archebu lle ar y diwrnod.)
Cofrestrwch eich diddordeb yma
02-10-2023
29-09-2023
18-09-2023
25-05-2023
15-05-2023
04-05-2023
03-05-2023
26-04-2023
20-04-2023