Unwaith eto, bydd Prifysgol De Cymru yn cymryd rhan yn y weithred i ysbrydoli mwy o fyfyrwyr a graddedigion i ddod yn fos arnyn nhw eu hunain!
Ymunwch â chymuned #GEW2022 i ddathlu entrepreneuriaeth a dysgu sut i gychwyn, cynnal sesiwn sylw a sicrhau cyllid i brofi, cychwyn, creu a thyfu eich syniadau.
Darganfyddwch fwy am ddigwyddiadau byd-eang trwy wefan swyddogol Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Oes gennych chi syniad busnes ond ddim yn gwybod sut i'w ddatblygu? Angen cymorth ar gyfer eich busnes presennol/menter llawrydd? Rydyn ni yma i helpu!
Ydych chi'n gweithio’n llawrydd neu'n sylfaenydd busnes/cychwyn busnes? Rhowch wybod i ni fel y gallwn eich cefnogi fel rhan o deulu PDC!
📅 10/11/22 - 08/12/22
Mae'r Fisa Cychwyn Busnes yn cynnig 2 flynedd i
fyfyrwyr rhyngwladol llwyddiannus gychwyn a thyfu busnes yn y DU. Ceisiadau ar
agor nawr.
📅 16/11/22 - 01/03/23
Mae’r Rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd yn gyfres wedi’i hariannu’n llawn o ddosbarthiadau meistr a digwyddiadau a ddarperir gan Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â NatWest Cymru.
📅 14/11/22 - 18/11/22
Daliwch ni i gyd trwy gydol Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 wrth i ni fynd ar daith o amgylch y tri champws gyda nwyddau am ddim!
📅 17/11/22
Ymunwch â ni wrth i ni gwrdd â 15 o bobl ysbrydoledig, sylfaenwyr busnes ac arwyr. Byddwn yn eich helpu i ddysgu sut y gallwch gynyddu eich gallu i fod yn fwy entrepreneuraidd, a beth fydd hyn yn ei olygu i chi.
📅 14/11/22 - 18/11/22
Dilynwch ni ar Facebook, Twitter neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael cyfle i ennill hamper anhygoel gan ein hentrepreneuriaid graddedig! Cyhoeddir yr enillwyr ar 18/11/22.
📅 18/11/22
Ymunwch â'n trydariadau BYW wrth i ni roi'r sgŵp mewnol i chi o fyfyrwyr PDC wrth iddynt gyflwyno syniadau busnes am hyd at £1,000 yn ein "Dragon's Den" ein hunain ar gyfer eu mentrau busnes / llawrydd!
📅 14/11/22
Cyfres diwrnod llawn o Ddosbarthiadau Meistr i roi'r hanfodion i chi ar gyfer gweithio’n llawrydd neu lansio'ch busnes eich hun! Sesiynau rhyngweithiol a ddarperir gan arbenigwyr.
Darganfyddwch pam roedden nhw eisiau dechrau eu menter eu hunain, pa brofiad maen nhw wedi'i ennill trwy eu taith entrepreneuraidd a sut roedd PDC yn gallu cefnogi a helpu i roi hwb i'w mentrau a’u tyfu.
Mae Marchnad Myfyrwyr Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o bob coleg a phrifysgol yng Nghymru arddangos eu cynhyrchion/gwasanaethau wrth dapio i mewn i farchnad bresennol o gwsmeriaid sy’n staff a myfyrwyr.
Edrychwch ar ein cynhyrchion a'n gwasanaethau myfyrwyr a graddedigion PDC yma!
Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'ch cyfeiriad gyrfa, gallwch gael gwiriad CV, archebu cyfweliad ffug, archwilio'ch opsiynau llawrydd, sicrhau lleoliad, adeiladu eich profiad, datblygu'ch rhwydwaith, bod yn gyflogadwy a chael eich ysbrydoli.
Ein gwefan yw'r lle gorau i ddechrau gyda llawer o adnoddau a chyfeiriadau at ein holl wasanaethau. Gan gynnwys adnoddau gwych i helpu chi sefyll allan o'r dorf pryd dych chi'n ysgrifennu CV, Llythyr Clawr, Ffurflen Gais a pharatoi ar gyfer Cyfweliad.
Ein system datblygu gyrfa a sgiliau. Mae'n orlawn o adnoddau, offer a deunyddiau dysgu i'ch helpu chi i ddeall eich hun yn well a'r opsiynau sy'n agored i chi, datblygu'ch sgiliau, a chyflwyno'ch hun yn dda i gyflogwyr - gan gynnwys adnoddau gwych i'ch helpu chi i greu proffil LinkedIn gwych.
Ein bwrdd swyddi a'n system digwyddiadau lle gallwch weld yr holl gyfleoedd diweddaraf a bostir gan gyflogwyr yn ogystal â digwyddiadau a fydd yn rhedeg, gan gynnwys digwyddiadau ar-lein! Rydym yn argymell cofrestru ar gyfer y rhybuddion wythnosol i sicrhau nad ydych yn colli allan ar unrhyw beth (neu'n ddyddiol os ydych chi'n wirioneddol awyddus!).
Ydych chi'n fyfyriwr graddedig diweddar PDC o 2019, 2020 neu 2021 ac angen cymorth i chwilio am swydd ar lefel graddedigion? Cofrestrwch gyda Springboard +Plus a darganfod mwy am gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at yfory gwell!