O Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf i'r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ym mis Tachwedd, i sesiynau fisa cychwyn busnes a dosbarthiadau meistr marchnata am ddim - mae rhywbeth at ddant pawb.
Edrychwch ar y dolenni yn y gwymplen isod, a chofrestrwch i'n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau newydd!
P'un a ydych am ddatblygu syniadau cychwyn busnes, llwyddo fel gweithiwr llawrydd, tyfu eich busnes neu fenter gymdeithasol eich hun, mae gan Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf rywbeth i bawb.
Mae Llwybr Cyflym Llawrydd yn ddau fŵtcamp hanner diwrnod llawn gweithgareddau i'ch gwneud chi'n barod ar gyfer gweithio’n llawrydd (neu'n barod i gychwyn eich busnes eich hun). Mae'r ddau ddiwrnod yn ymdrin ag ystod o bynciau hanfodol, a byddwch hefyd yn cael cyfle i gyflwyno eich syniad menter drwy sesiwn sylw a sicrhau hyd at £1000.
Gall y cyflymydd cychwyn busnes a gweithio’n llawrydd i raddedigion – Lansio PDC - eich helpu i ganolbwyntio ar eich syniad busnes gyda chyllid a mentoriaeth menter. Datglowch gyllid cychwynnol o hyd at £5,000 a hyfforddiant busnes arbenigol i gael eich syniad ar lawr gwlad.
Mae cyllid Den Syniadau DIsglair ar gael i fyfyrwyr cyfredol a’r rhai sydd wedi graddio hyd at 3 blynedd o Brifysgol De Cymru, ar gyfer cyfle i gyflwyno sesiwn sylw am hyd at £1,000 i gychwyn eich syniad disglair neu fusnes sy'n bodoli eisoes.
Mae BID yn digwydd ym mis Tachwedd, Mawrth a Gorffennaf bob blwyddyn. Bydd ceisiadau am y BID nesaf yn agor ar yr 15 Chwefror 2023.