Am weithredu a Gwneud gwahaniaeth? Mae Enactus yn sefydliad
rhyngwladol a arweinir gan fyfyrwyr gyda dros 72,000 o aelodau yn weithredol
mewn 37 gwlad, rydym yn rhwydwaith enfawr a all fod yn werthfawr iawn i fod yn
rhan ohono.
Enactus
PDC Mae Enactus PDC yn gymuned o
fyfyrwyr, academyddion ac arweinwyr busnes sy'n defnyddio gweithredu entrepreneuraidd
i wella bywydau. Gyda chymorth ac anogaeth staff cyfadran, Gyrfaoedd PDC a staff
Menter Myfyrwyr, mae myfyrwyr Enactus yn defnyddio cysyniadau busnes i
ddatblygu prosiectau allgymorth cymunedol sy'n gwella ansawdd bywyd a safon byw
i bobl mewn angen, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Yn gweithredu o Gampysau Trefforest, Casnewydd a Chaerdydd, mae
Enactus PDC yn gyfle tebyg i ddim arall, lle byddwch chi'n derbyn mentor gan
sefydliad blaenllaw i'ch helpu chi i'ch paratoi ar gyfer y byd go iawn. Mae
ymchwil yn dangos bod cael Enactus ar eich CV yn gwella'ch siawns o gael eich
rhoi ar y rhestr fer, eich cyfweld a sicrhau rolau swyddi!
Felly
os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau a'ch profiad, a chymryd
rhan mewn hyfforddiant penwythnosau, cystadlaethau a theithiau, wrth wneud
gwahaniaeth i eraill e-bostiwch [email protected] - neu
gallwch gysylltu
â Menter Myfyrwyr i gael cyflwyniad pellach i'r Tîm Enactus PDC.
Ar gyfer myfyrwyr llawrydd PDC, graddedigion (hyd at 3 blynedd)
a'r rhai sydd â 'busnes ar yr ochr'.
Mae'r Gymuned
Llawrydd a Chychwyn Busnes yn dod â Gweithwyr Llawrydd ynghyd i
gydweithio ar brosiectau, cyfnewid a rhannu sgiliau, cwrdd ar gyfer cymdeithasu
a chefnogi ei gilydd yn eu taith llawrydd.
Digwyddiadau, cymdeithasu, gweithdai, siaradwyr gwadd, tripiau a
mwy!
Startup Stiwdio Sefydlu yw gofod cydweithredu a deori
pwrpasol PDC a gynlluniwyd i helpu i ddatblygu a thyfu syniadau busnes newydd
ac mae wedi'i leoli ar ein campysau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Gall myfyrwyr a graddedigion elwa o aelodaeth rhithwir neu
gorfforol am ddim, gyda chymorth yn cynnwys:
Rhaglenni a digwyddiadau cefnogi busnes
pwrpasol.
Chwe mis o wasanaethau archebu a chyfrifyddiaeth
am ddim.
Cymorth cyfreithiol am ddim am flwyddyn.
Help gyda chofrestru patent a nod masnach.
Mynediad i ystafelloedd cyfarfod.
Cliciwch
ar y ddolen hon i
gael eich ailgyfeirio i brif dudalen Stiwdio.
Cyfnewidfa
PDC yw’r drws ffrynt ar gyfer ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgol De
Cymru. Mae ganddyn nhw dîm o Reolwyr Ymgysylltu sy'n ceisio cefnogi ystod o
heriau busnes trwy harneisio talent, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol De
Cymru.
Mae rhestr o wasanaethau cymorth y mae Cyfnewidfa PDC yn eu cynnig
yn cynnwys:
Ydych chi'n fyfyriwr graddedig o PDC ac yn gweithio’n llawrydd
neu'n rhedeg eich busnes/menter gymdeithasol eich hun? P'un a ydych chi newydd
ddechrau neu wedi bod yn masnachu am gyfnod - gallai eich stori helpu eraill
sy'n chwilio am ddyfodol mwy entrepreneuraidd a gall helpu i gysylltu pobl o'r
un anian, ble bynnag maen nhw yn y byd.
Darllenwch
ein hastudiaethau achos myfyrwyr/entrepreneur graddedig PDC yma.
Arddangos eich cynhyrchion ar Farchnad Myfyrwyr Cymru!
Mae Marchnad
Myfyrwyr Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o bob coleg a phrifysgol
yng Nghymru arddangos eu cynhyrchion/gwasanaethau wrth dapio i mewn i farchnad
bresennol o gwsmeriaid sy’n staff a myfyrwyr.
Edrychwch
ar ein cynhyrchion a'n gwasanaethau myfyrwyr a graddedigion PDC yma!