3J7A3658.jpg

Cymorth


Shwmae (Helô) gan Menter PDC! 👋

Oes gennych chi syniad busnes ond ddim yn gwybod sut i'w ddatblygu? Angen cymorth i'ch menter busnes/llawrydd bresennol? Am sefydlu menter gymdeithasol i wneud gwahaniaeth?

Does dim angen i chi ddweud mwy - mae Menter PDC yma i helpu! O sesiynau un i un i fŵtcamps, digwyddiadau rhwydweithio a mwy, rydym yn dîm ymroddedig o dan Gyrfaoedd PDC yn barod i'ch helpu ar eich taith cychwyn busnes.

Yr Hyn a Wnawn

Angen bwrdd seinio ar gyfer eich syniadau llawrydd? Rhywfaint o fewnbwn i helpu i fynd â'ch busnes i'r cam nesaf?

Lle bynnag yr ydych chi gyda'ch syniad busnes neu lawrydd, mae'r Tîm Menter PDC yn hapus i gwrdd â chi ar sail un i un a chynnig arweiniad.

Cwrdd â ni:

  • Yn bersonol am Syrjeri Busnes yn unrhyw un o gampysau'r brifysgol, neu
  • Cefnogaeth rithwir dros y ffôn neu alwad fideo.

Gallwn hefyd eich cysylltu â'r cyfoeth o gymorth sydd ar gael i fusnesau cychwynnol yng Nghymru.

Appointments - Welsh

Fisa Llwybr Graddedigion (Llwybr Hunangyflogadwyedd)

Mae'r fisa llwybr graddedigion newydd yn galluogi graddedigion i wneud gwaith cyflogedig neu hunangyflogedig ar unrhyw lefel.

Am fwy o arweiniad a sut i wneud cais, cyfeiriwch at yr erthygl hon.

Am wybodaeth swyddogol ynghylch y Fisa Llwybr Graddedigion, gweler:  https://www.gov.uk/graduate-visa

Mae MyCareer yn adnodd pwrpasol am ddim gan Gyrfaoedd PDC sy'n cynnig erthyglau, cyngor, offer a mwy.

Gydag offer ar gyfer hunangyflogaeth a chychwyn busnes megis:

  • Rheoli cyfryngau cymdeithasol
  • Canllaw dechreuwyr i weithio’n llawrydd
  • Ariannu eich busnes newydd
  • Pwysigrwydd cynllun busnes
  • Sut i ariannu'ch busnes
  •  Sgiliau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer entrepreneuriaeth

Dechreuwch eich taith yma:

MyCareer-website-button.png


Mwy o adnoddau ar-lein Menter yn dod yn fuan!

stiwdio.jpg

Startup Stiwdio Sefydlu yw gofod deori a rhaglenni pwrpasol PDC, a ddyluniwyd i helpu i ddatblygu a thyfu syniadau busnes newydd.

Mae peth o'r cymorth yn cynnwys ac nid yn gyfyngedig i:

  • Rhaglenni cymorth busnes pwrpasol
  • 6 mis o wasanaethau archebu a chyfrifyddiaeth am ddim
  • Cymorth cyfreithiol am ddim am flwyddyn
  • Help gyda chofrestru patent a nod masnach

Cliciwch ar y ddolen hon i gael eich ailgyfeirio i brif dudalen Stiwdio.

big ideas wales.png

Syniadau Mawr Cymru – Cymorth entrepreneuriaeth o dan 25 oed.

download.jpg

Busnes Cymru - Yn cynnig cymorth i bob busnes newydd a phresennol sy'n cynnwys taflenni ffeithiau’r sector busnes, gweithdai BOSS ar-lein am ddim a gwybodaeth cynllunio busnes i'ch helpu chi i adeiladu eich gwybodaeth a'ch busnes.

Princes_Trust_Logo_Start_Something2.png

Ymddiriedolaeth y Tywysog - Mae'n cynnig cymorth cychwynnol i bobl ifanc 18-30 oed.

hmrc.jpg

Cyllid a Thollau EM - Ar ôl i chi sefydlu'ch busnes, rhaid i chi gofrestru fel hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM. Mae gan Cyllid a Thollau EM lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar sefydlu busnes.

ipselogo.png

ipse - Cymorth i weithwyr llawrydd a'r hunangyflogedig.

Cwrdd â'r Tîm

Mae Menter PDC, rhan o Gyrfaoedd PDC yn cynnig cymorth, arweiniad a gweithgareddau i holl fyfyrwyr a graddedigion PDC.  I gael mynediad at unrhyw un o'r cymorth isod, neu i gysylltu ag aelod o'n tîm yn uniongyrchol, cysylltwch â ni ar unrhyw un o'r dulliau isod:

E-bostiwch ni: [email protected]

Trydarwch ni: @EnterpriseUSW

Neu ffoniwch aelod o'n tîm yn uniongyrchol trwy'r proffiliau staff isod.