Mae Menter PDC, sy'n rhan o Gyrfaoedd PDC, yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau menter, llawrydd, cychwyn busnes neu fenter gymdeithasol eu hunain ac eisiau trafod, datblygu, profi a lansio eu syniadau.
Ni waeth ble rydych chi ar eich taith cychwyn busnes, gallwn ni helpu pob cam o'r ffordd o syniad wedi'i sgriblo i lawr i lansio eich busnes!
Rydym yn cynnig cymorth un i un a mentora trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag ystod o ddigwyddiadau a gweithdai rhyngweithioli roi'r wybodaeth, yr hyder a'r rhwydweithiau i chi ddechrau gweithio i chi'ch hun.
Mae Myfyrwyr PDC yn trefnu amrywiaeth o wahanol ddosbarthiadau meistr a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Trwy gofrestru'ch diddordeb, byddwch hefyd yn cael eich cofrestru'n awtomatig i'n cylchlythyr Menter misol. Defnyddir eich data at ddibenion cymorth, gwybodaeth farchnata ac adrodd yn ddienw yn unig, a gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
26-04-2023
07-03-2023
17-11-2022
10-11-2022
03-11-2022