Gallwn eich helpu gyda chynllunio gyrfa bwrpasol ac apwyntiadau arweiniad.
Mae gennym heryd adnoddau ar-lein fel ein Cwrs Datblygu Gyrfa. Gall ein hadnoddau hygyrch ar-lein eich cynorthwyo ar bob cam o'r broses recriwtio o CVs, llythyrau eglurhaol, ffurflenni cais a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu. Mewngofnodwch i'ch pecyn cymorth MyCareer i raddedigion ar gyfer cymorth recriwtio ar-lein pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
Mae gennym nifer o gylfeoedd lefel graddedig ar gael nawr!
Mae pob lleoliad yn cynnig cyflog o £9.50 yr awr o leiaf ac maent yn dymor penodol am gyfnod o hyd at 12 wythnos. Bydd angen CV a llythyr eglurhaol i wneud cais.
Ar agor yn unig i Raddedigion diweddar Prifysgol De Cymru o'r blynyddoedd graddio 2019, 2020 & 2021 sydd â’r hawl i weithio yn y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau taledig, cysylltwch â Sally Thurlow-Murray, Parner Lleoliad.
Mae Springboard +Plus PDC: Rhaglen Cymorth i Raddedigion a Menter Myfyrwyr yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd i raddedigion diweddar PDC sydd â syniad busnes gwych gyda Lansio PDC.