Gall Gyrfaoedd PDC eich helpu i wneud dewisiadau gyrfa effeithiol a gwella'ch rhagolygon cyflogaeth. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru gan gynnwys cyfleoedd gwaith a phrofiad gwaith a chymorth ymarferol gyda chwilio am swydd.
Am gyngor pellach gall darpar fyfyrwyr Prifysgol De Cymru drefnu apwyntiad i siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae apwyntiadau ffôn ar gael, e-bostiwch [email protected] gyda'ch enw a disgrifiad byr o'ch ymholiad a byddwn yn trefnu amser.
Hefyd mae Gyrfa Cymru a Gyrfaoedd Cenedlaethol yn Lloegr yn cynnig cyngor a chymorth gyrfaoedd am ddim i oedolion.