Rhwydweithio yw'r broses o siarad â phobl a gwneud cysylltiadau i'ch helpu gyda’ch datblygiad gyrfa.
Gall sefydlu rhwydwaith eich helpu i:
Gall rhwydwaith sydd wedi'i hen sefydlu helpu gyda chynllunio gyrfa a'i gwneud yn haws i chi ddod o hyd i swydd ar ôl i chi raddio.
Nid yw llawer o swyddi byth yn cael eu hysbysebu (a elwir yn aml yn farchnad swyddi cudd) a gall rhwydwaith da eich helpu i ddarganfod y cyfleoedd hyn.
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno hanfodion rhwydweithio i'ch helpu i baratoi i gael sgyrsiau effeithiol ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.