Os ydych chi'n ceisio am swyddi, neu os oes gennych chi gyfweliad ar y gorwel, dyma 5 rheswm i fynychu'r gweithdy hwn:
1. Dysgu sut i baratoi'n effeithiol ar gyfer cyfweliad.
2. Darganfod gwahanol fathau o gwestiynau.
3. Cael cymorth i nodi cwestiynau a dewis tystiolaeth addas i ddangos y cymhwysedd neu'r sgil sy'n ofynnol.
4. Dysgu am dechneg STAR ar gyfer ateb cwestiynau.
5. Sicrhau’r hwb hyder pwysig hwnnw cyn eich cyfweliad nesaf.
Cyflwynir y sesiwn hon ar-lein.