Dod o Hyd i Swyddi Graddedigion

10-03-2023 am 10am i 11am

Lleoliad: Ar-lein

Cynulleidfa: Student

Ychwanegu at y calendr

Felly rydych chi eisiau swydd wych, ond sut mae cychwyn arni a ble allwch chi chwilio am Swyddi Graddedigon?

4 rheswm pam y dylai myfyrwyr blwyddyn olaf fynychu'r gweminar hon: 

  1. Os hoffech chi ddarganfod mwy am strategaethau chwilio am swydd.
  2. Os nad ydych yn siŵr beth yw swyddi lefel mynediad, swyddi graddedigion a chynlluniau graddedigion, ac eisiau gwybod mwy.
  3. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â ble i ddechrau eich chwiliad gwaith a ble i ddod o hyd i gyfleoedd. 
  4. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am pryd y dylech chi ddechrau ymgeisio a pha gymorth sydd ar gael i chi wrth i chi lywio prosesau recriwtio graddedigion. 

Cyflwynir y sesiwn hon ar-lein.

Mae Gyrfaoedd PDC wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i'n gwasanaeth. Cynhelir y sesiwn hon gan ddefnyddio Blackboard Collaborate. Os bydd angen addasiadau arnoch er mwyn cyrchu'r sesiwn hon, cysylltwch â [email protected] heddiw i drafod eich anghenion.