Ydych chi'n fyfyriwr neu'n fyfyriwr graddedig diweddar o PDC sydd â diddordeb mewn gweithio ar eich liwt eich hun neu gychwyn busnes? Efallai bod gennych chi fusnes eisoes ac eisiau ehangu eich gwybodaeth mewn marchnata? Neu a ydych chi'n ceisio cyllid i'ch busnes dyfu? Peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i chi.
Mae
Menter Myfyrwyr PDC yn trefnu amrywiaeth o wahanol ddosbarthiadau meistr a
digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Dewiswch o blith nifer o ddigwyddiadau a
chefnogaeth fel apwyntiadau un i un, y Startup Stiwdio Sefydlu, Academi
Llawrydd/Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 2022, sesiynau fisa cychwyn busnes,
dosbarthiadau meistr llawrydd a marchnata, Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang a
llawer mwy.
Trwy
gofrestru'ch diddordeb, cewch eich cofrestru’n awtomatig hefyd i'n cylchlythyr
Menter misol. Defnyddir eich data at ddibenion cymorth, gwybodaeth farchnata ac
adrodd yn unig, a gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
Llenwch
y ffurflen yn y ddolen isod. Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â
ni yn [email protected]