Os ydych chi'n chwilio am Swydd rhan-amser, Lleoliad Haf neu'n paratoi i ymgeisio am Swyddi Graddedigion mae'r gweminar CV hon ar eich cyfer chi!
4 rheswm i edrych ar y gweminar CV hon:
- Os oes angen diweddaru eich CV ac nad ydych yn hollol siŵr beth i'w gynnwys na faint o dudalennau y dylai fod.
- Os ydych chi'n cael trafferth ysgrifennu adran proffil personol ac nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau.
- Os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith ac eisiau gwybod sut i gyfleu'ch sgiliau.
- Os ydych chi'n ansicr sut i ffocysu’ch CV i fodloni gofynion y swydd.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno ar-lein. Rhaid i chi archebu lle i dderbyn y ddolen ymuno. Gellir archebu eich lle drwy ein system archebu ar-lein isod.
