Mae swydd i raddedigion gyda Chyngor RhCT yn agor drysau i swyddi a chyfleoedd gyrfa rhagorol eraill.
Mae'r Cyngor RhCT unwaith eto yn chwilio am weithwyr yn rhan o'i Raglen i Raddedigion sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.
Ymunwch â ni i gael golwg fanwl ar ein Rhaglen i Raddedigion, gwybodaeth am ein swyddi gwag cyfredol a'r cymorth o ran cyflwyno ceisiadau.
Gweminar Lansio'r Rhaglen – Dydd Mercher 7 Rhagfyr, 12–1pm trwy TEAMS