Bydd y sesiwn hon yn dweud popeth wrthych am Change 100, ein proses recriwtio a magu hyder o ran anabledd. Cewch gyfle i ddysgu am y mathau o rolau a gynigir trwy Change 100, beth sy'n gwneud cais llwyddiannus a sut y gall y rhaglen helpu i fagu hyder wrth reoli eich anabledd yn y gweithle. Mae cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cyflwynir y sesiwn hon ar-lein fel rhan o ymgyrch ‘Arddangos eich Talent’ GO Wales. Gellir gweld yr amserlen gweminar lawn yma.