Yn rhan o Raglen Springboard Prifysgol De Cymru (PDC) - i gefnogi menter a chyflogadwyedd graddedigion - mae Rownd 3 ar gyfer cyllid o’n Cronfa Gychwynnol i Raddedigion yn lansio heddiw, yn rhan o'n gweithgareddau Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Mae'r Gronfa bellach wedi'i hehangu i gynnwys unrhyw raddedigion o 2019, 2020 a 2021, gyda'r nod bod y Gronfa yn cefnogi entrepreneuriaeth gan raddedigion ac yn rhoi cymorth ariannol i raddedigion ddatblygu a thyfu syniad busnes newydd.
Mae’r dyfarniad uchaf hefyd wedi newid ar gyfer y rownd hon ac mae wedi cynyddu i £5,000 ar gyfer ceisiadau eithriadol, gyda dyfarniadau llai yn debygol o fod rhwng £1,000 a £3,000.
Cymhwysedd
Mae gennych syniad busnes newydd hyfyw sy'n barod i ddechrau masnachu o fewn chwe mis o dderbyn cyllid. Fel arall, rydych o fewn chwe mis cyntaf dechrau masnachu.
Meini Prawf Asesu
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan gwmnïau cychwynnol gan raddedigion neu weithwyr llawrydd sy'n:
· Dangos tystiolaeth o syniad busnes arloesol gyda marchnad/cwsmeriaid profedig
· Dangos tebygolrwydd o dyfu yn y dyfodol agos i greu swyddi
· Byw yng Nghasnewydd neu Gymoedd Gwent a/neu'n dymuno cael eu lleoli yn ein Stiwdio Startup newydd ar gampws Dinas Casnewydd.
· Dangos tystiolaeth glir o angen ariannol am y dyfarniad
Y weithdrefn ymgeisio
Cyflwyno Cynllun Busnes Gweithredol Cryno (3 tudalen ar y mwyaf), a ddylai fod yn seiliedig ar '9 elfen y Cynfas Model Busnes', ond mae gennych ryddid i’w ysgrifennu mewn unrhyw fformat. (Gweler y canllawiau yma)
Byddem hefyd yn croesawu unrhyw dystiolaeth ategol, megis prototeip o gynnyrch neu wasanaeth e.e. sampl o ffilm neu ddeunydd fideo neu ddyluniadau cysyniad.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais a chyflwyno Cynllun Busnes Gweithredol Cryno yw 1pm ar ddydd Mercher 1 Rhagfyr, 2021.
Yna bydd ceisiadau’r rhestr fer yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau.
Bydd y gystadleuaeth cyflwyno syniadau’n cael ei chynnal ar ddydd Iau 16 Rhagfyr, 2021. Mae hon yn debygol o fod yn gystadleuaeth fyw yng Nghaerdydd. Bydd angen i ymgeiswyr sydd wedi eu rhoi ar y rhestr fer allu mynychu y diwrnod hwn.
Bydd y panel beirniadu yn cael ei gadeirio gan yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Menter PDC, a bydd yn cynnwys entrepreneuriaid llwyddiannus o Gymru ac entrepreneur graddedig o PDC.