Byddwch yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth yn y sector gwirfoddol, maes cadwraeth a’r amgylchedd, maes gofal a gwaith cymdeithasol, y sector celfyddydol a diwylliannol, ac eraill.
Mae gwirfoddoli hefyd yn gyfle gwych i roi cynnig ar wahanol swyddi, cael blas ar y byd Gwaith wrth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
‘Os ydych chi eisiau gwella’ch hyder a chael dealltwriaeth o’r byd gwaith, mae gwirfoddoli yn lle gwych i ddechrau arni.’
'Mae'r syniad o ganolfan gymunedol lle gall pobl fynd i ddysgu rhywbeth yn gyffrous i fi'
'Mae ‘Rhoi ychydig. Ennill llawer’, yn rhywbeth rwy'n teimlo sy'n disgrifio fy mhrofiad o wirfoddoli. Mae’r ychydig amser rydw i’n ei roi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r rhai rydw i wedi’u cefnogi.'
Fe wnes i wirfoddoli fel swyddog Cymorth Cyntaf i dîm Rygbi Mini fy mab am nifer o flynyddoedd. Heb wirfoddolwyr i helpu gyda, cymorth cyntaf a hyfforddi ni fyddai'r grwpiau chwaraeon lleol hyn yn gallu bodoli. Ym mhob gêm, roeddwn bob amser yn gobeithio na fyddai angen fy ngwasanaethau!
Rwy'n gwirfoddoli'n bennaf gyda phobl ddigartref a bregus. Ym mis Rhagfyr 2021, gwirfoddolais yn un o'r Digwyddiadau Lovelight gyda Gofal Canser Tenovus yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Dwi'n feidio mae rhoi yn ôl i'r gymuned a chefnogi eraill yn rhoi llawer o foddhad, bob amser yn awyddus i ddysgu o brofiadau 'a ffyrdd of feddwl pobl eraill.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: [email protected]
Mae'r Cynllun Ymgysylltu Dinesig yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n tynnu ar y cysylltiadau cryf rhwng pob prifysgol a'r sefydliadau dinesig rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
Os ydych chi'n bwriadu astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, efallai y bydd cyllid hael ar gael o gynlluniau cyllido fel Global Wales Discover, Turing Scheme ac Erasmus + i'ch helpu chi i dalu costau profiad rhyngwladol. Mae'r rownd gyntaf o geisiadau cyllid yn cau 21 Mawrth 2022, felly cysylltwch cyn gynted â phosibl er mwyn gallu ymgeisio am gyllid.