Robin Hannagan-Jones

(BA Cynhyrchu Cyfryngol, 2022)

Enw'r Busnes: Fabled LTD

Robin

Disgrifiad o'r cyfle busnes/llawrydd:

Mae Fabled LTD yn gwmni cynhyrchu fideo sy'n gwneud cynnwys fideo a ffotograffig o ansawdd uchel ar gyfer llwyfannau marchnata digidol y diwydiannau lletygarwch.

Pam ydych chi wedi dewis sefydlu'r fenter fusnes hon?

Dewisais sefydlu’r fenter fusnes hon oherwydd roeddwn i eisiau defnyddio fy mhrofiad lletygarwch blaenorol, fy nghreadigrwydd a’m sgil technegol i greu cynnwys deniadol ac o ansawdd uchel ar gyfer busnesau yn y sector lletygarwch. Oddi yno fy nod yw ehangu ein marchnad darged a thyfu mewn maint lle gallwn ariannu a chynhyrchu teledu a ffilm o safon uchel.

Sut daethoch chi i wybod am y Rhaglen Cyflywydd LANSIO?

Cefais wybod am y rhaglen LANSIO trwy aelod blaenorol – rydym yn gweithio yn yr un gofod deori, y Start-up Stiwdio Sefydlu yng Nghaerdydd a rhoddodd wybod i mi am LANSIO a phryd yr oeddent yn derbyn ymgeiswyr newydd.

Pam wnaethoch chi wneud cais am y Rhaglen Cyflymydd LANSIO?

Fe wnes i gais am y rhaglen LANSIO yn bennaf am y cyfle i dderbyn mentoriaeth uniongyrchol gan dîm Menter PDC, Busnes Cymru ac i gael yr holl adnoddau hyn ar gael i mi i'm helpu i ddechrau fy musnes. Mae'r fwrsariaeth hefyd yn ddefnyddiol iawn yn enwedig gan fod gennyf ymrwymiadau ariannol eraill sydd weithiau'n rhwystro fy ngallu i ganolbwyntio'n llwyr ar gychwyn fy musnes.

Sut mae Rhaglen Cyflymydd LANSIO wedi eich helpu gyda'ch menter fusnes?

Mae rhaglen cyflymydd LANSIO wedi fy helpu i adeiladu model busnes cadarn, cynnal fy ymchwil marchnad a chystadleuwyr ac mae bellach yn fy nghefnogi trwy brofi cynnyrch a rhwydweithio. Mae’r mentoriaid sydd gennym yma yn wirioneddol gefnogol ac mae fy meddylfryd fel entrepreneur yn fwy cymhellol a chadarnhaol. Rwyf bellach ychydig wythnosau i ffwrdd o lansio fy musnes ac yn mynychu nifer o sesiynau rhwydweithio yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu?

Mae’r heriau rwyf wedi’u hwynebu wedi cynnwys adeiladu fy nghynnig cyfryngau cymdeithasol gan wneud i mi sylweddoli bod yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar gyfer cynnig cryfach ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cymryd ychydig o amser gan nad yw’n un o’m meysydd cryfaf ac rwyf wedi gorfod gwneud hyn yn flaenoriaeth. Her arall yr wyf wedi’i hwynebu yw gallu marchnata fy musnes, mae dilyn cwrs gwneud ffilmiau creadigol wedi rhoi llawer o rîl arddangos a phortffolio creadigol, naratif i mi, gan mai’r hyn sydd ei angen ar y busnes yw marchnata a chynhyrchu cynnwys wedi’i deilwra ar gyfer ein diwydiannau targed dewisol. Rydym bellach mewn cyfnod profi cynnyrch a fydd yn darparu deunyddiau portffolio a marchnata y gellir eu defnyddio i ni megis cynnwys cyfryngau cymdeithasol a rîl arddangos.

Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i chael sydd o fudd i chi?

Mae’r mentora meddylfryd gan Helen Corsi-Cadmore wedi bod yn fuddiol o ran fy helpu i gadw ffocws a bod yn gynhyrchiol tra hefyd yn sicrhau nad wyf yn gorweithio fy hun ac yn cael fy  ngorlethu. Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan y tîm Menter wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy nghadw'n llawn cymhelliant ac ar dasg. Dydw i ddim yn meddwl y gallwn fod wedi mynd mor bell â hyn heb y gefnogaeth hon.

Pa gyngor sydd gennych chi i fyfyrwyr blwyddyn olaf a chyd-raddedigion?

Os oes gennych chi syniad rydych chi'n angerddol amdano, siaradwch â'r tîm menter. Byddant yn ei drafod gyda chi ac yn gofyn y cwestiynau cywir a fydd yn eich helpu i gymryd y cam nesaf a'ch galluogi i fynd o freuddwydiwr i entrepreneur.


For more information, contact the Graduate Support Team on: [email protected]