Cryfder a chyflyru, hyfforddiant personol, hyfforddiant crefft ymladd, a thylino chwaraeon.
Rwy’n dyheu am fod yn ymladdwr proffesiynol ac mae bod yn hunangyflogedig yn gweddu i’m ffordd o fyw. Mae'r diwydiant (gweithio i dimau) yn enwog am dandalu a gorweithio hyfforddwyr.
E-bost PDC.
Yn wreiddiol, roeddwn i eisiau cyllid ar gyfer cais hyfforddi ond pan fynychais y diwrnod cyflwyno cyntaf, cefais wybod bod llawer mwy o help yn cael ei gynnig.
Newidiais fy marn am fusnes yn llwyr o ‘rywbeth’ yr wyf yn ei wneud ar yr ochr, i rywbeth yr wyf yn wirioneddol credu ynddo nawr. Rwy'n teimlo ei fod wedi'i gyfreithloni mewn ffordd. Rydw i wedi cofrestru gyda CThEM, mae gen i wefan, yr wyf wedi lansio ap hyfforddi newydd, wedi gwneud cyfrif banc busnes, ac wedi dysgu am gadw llyfrau, sefydlu rhestr bostio ac ati.
Bûm yn brwydro â'm prisiau ar ôl trafodaeth yn ôl ac ymlaen am brisio yn ôl fy ngwerth, ond rwy'n deall nawr, os na fyddaf yn codi'r hyn yr wyf am gael fy nhalu, na fyddaf byth yn cyrraedd lle rwy’n dymuno bod.
Mae pawb wedi bod yn wych, rwyf wedi derbyn cymorth yn y meysydd y soniais amdanynt uchod a chefais fy ngwthio i wneud tasgau a oedd wir yn fy ngwneud yn ymwybodol o'r hyn sydd angen i mi ei wneud er mwyn llwyddo, ac amlygodd dadansoddiad y cystadleuwyr hyn yn arbennig. Rydw i wedi cael mynediad i weminarau ac mae'r rhaglen yn bendant yn rhoi'r holl offer i chi i ddechrau arni.
Nid oes neb yn mynd i wneud unrhyw beth ar eich rhan chi, mae gwaith caled bob amser yn cael ei wobrwyo, a pheidiwch â bod ofn methu neu fentro gan mai oddi yno y daw'r twf mwyaf.
For more information, contact the Graduate Support Team on: [email protected]