Konrad, GE Aviation

Konrad Chiechanowski, MSc Peirianneg Fecanyddol

GE Aviation - Interniaeth

Cafodd Konrad Ciechanowski ei fachu gan GE Aviation cyn cwblhau ei radd meistr peirianneg. 

Mae Konrad, sydd bellach yn gweithio fel Peiriannydd Ansawdd yn yr adran Peirianneg Ansawdd, yn gyfrifol am ymchwiliadau technegol lle mae'n nodi materion ac yn gwneud argymhellion i wella'r systemau ansawdd. 

"Roeddwn wedi paratoi'n dda ar gyfer y rôl hon, yn ogystal ag interniaeth gyda GE fel rhan o'm gradd BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol. 

Fe wnaeth y cwrs MSc Peirianneg Fecanyddol ddysgu'r theori tu ôl i reolaeth systemau ansawdd ac iechyd a diogelwch.

Roedd y modiwl Arweinyddiaeth Strategol a Rheolaeth ar gyfer Peirianwyr yn arbennig o werthfawr. 

Konrad GE Aviation

"Fe'm cyflwynodd i ddamcaniaethau ac ymarfer arweinyddiaeth, yn enwedig newid a rheoli strategaeth, yr wyf yn eu defnyddio bob dydd. 

Roedd cynnwys y modiwl yn allweddol. Rwyf hefyd yn defnyddio gwybodaeth deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch bob dydd. Rhoddodd cyrsiau BEng ac MSc wybodaeth dechnegol peirianneg gadarn i mi, sy'n hanfodol yn y busnes hedfan."