Heddlu De Cymru

Annalise - BSc Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Heddlu De Cymru lleoliad 70 awr


Pam y gwnaethoch chi ddewis y sefydliad hwn i wneud eich lleoliad a sut y gwnaethoch chi ddod o hyd i'r cyfle?

Dewisais Heddlu De Cymru gan mai dyma lle y byddwn i'n hoffi dechrau fy ngyrfa ar ôl i mi gymhwyso. Yr wyf wedi cael y cyfle i weithio mewn gwahanol adrannau sydd wedi fy ngalluogi i weld y gwahanol agweddau ar blismona.


Beth oedd fwyaf gwerthfawr i chi am y gwaith a gyflawnwyd gennych?

Roeddwn i'n gallu gweithio fel rhan o'r heddlu ac roeddwn i'n cymryd rhan mewn gwahanol weithrediadau.  Fe wnaeth yr heddlu agor llawer o gyfleoedd i ni weithio gyda trwyddedu, pobl ar goll a phlismona cymdogaeth ac ati. Cawsom ein trin fel rhan o'r tîm.

Pa sgiliau a gwybodaeth newydd y gwnaethoch chi eu hennill?

Rwyf wedi gallu atgyfnerthu sgiliau amrywiol fel cyfathrebu, empathi, menter, gwaith tîm a datrys problemau.  Mae gen i ddealltwriaeth well erbyn hyn o sut mae gweithrediadau'r heddlu'n gweithio a sut maen nhw'n gweithio fel tîm amlasiantaeth. 

SWP Annalise

O'r chwith i'r dde:

  • Y Prif Arolygydd Hannah Durham
  • Yr Uwcharolygydd Karen Thomas
  • Myfyrwyr Gwyddorau'r Heddlu PDC a gwirfoddolwr myfyrwyr Heddlu De Cymru
  • Cwnstabl yr heddlu Mike Perry
  • Annalise Parisi - Myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol PDC a gwirfoddolwr Heddlu De Cymru

Sut bydd y lleoliad hwn yn helpu gyda'ch gyrfa?

Mae hyn wedi fy ngalluogi i gael fy adnabod o fewn Heddlu De Cymru ac rwyf wedi cael cydnabyddiaeth am wirfoddoli ar achos penodol. Mae wedi cadarnhau fy mod yn bendant eisiau gweithio yn y maes hwn a bod adrannau penodol sydd o ddiddordeb mwyaf i mi.


Rhowch sylwadau ar y cymorth a gawsoch gan y brifysgol a/neu eich sefydliad lleoliad? 

Mae'r gefnogaeth a gafwyd gan PDC a'r heddlu wedi bod yn wych. Cefais gefnogaeth gan PDC yr holl ffordd wrth ddechrau fy lleoliad.  Roedd y Tîm Lleoliad yn deall mai gweithio i'r heddlu oedd fy newis cyntaf ac na fyddai'n caniatáu i mi setlo am ddim llai.  Bydd cael y profiad o'm lleoliad o fudd i mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol.