Amber Jones

(BA Dylunio Ffasiwn, 2021)

Enw'r Busnes: Bombus Artisanal

Amber

Disgrifiad o'r cyfle busnes/llawrydd:

Ffasiwn crefftwrol, moethus gyda ffocws ar gydweithio ag artistiaid tecstilau, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill.

Pam ydych chi wedi dewis sefydlu'r fenter fusnes hon?

Cynorthwyo i hyrwyddo ffasiwn cynaliadwy, talentau a chrefftau lleol.

Sut daethoch chi i wybod am y Rhaglen Cyflywydd LANSIO?

E-bost Springboard.

Pam wnaethoch chi wneud cais am y Rhaglen Cyflymydd LANSIO?

Cynnal fy hun yn ariannol wrth sefydlu fy musnes er mwyn i mi allu canolbwyntio.

Sut mae Rhaglen Cyflymydd LANSIO wedi eich helpu gyda'ch menter fusnes?

Mae wedi rhoi amser i mi ganolbwyntio o ddifrif ar drefnu popeth ar gyfer fy musnes. Rwyf hefyd wedi gallu cael mwy o offer proffesiynol.

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu?

Mae llawer mwy o waith gweinyddol wedi bod nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl, ond mae jyglo LANSIO a swydd ran-amser wedi gwneud pethau'n haws.

Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i chael sydd o fudd i chi?

  • Cymorth Busnes Cymru
  • Kevin o'r grŵp cyfryngau hwnnw
  • Dogfennau ariannol fel llif arian, cyllideb goroesi ac ati.

Pa gyngor sydd gennych chi i fyfyrwyr blwyddyn olaf a chyd-raddedigion?

Mae'n llawer o waith ond mae gweithio i mi fy hun wedi bod yn anhygoel. Mae gen i ryddid i ddewis pryd a sut rydw i'n gweithio. Hefyd, rydw i'n gwneud yr hyn rydw i'n ei garu bob dydd nawr.


For more information, contact the Graduate Support Team on: [email protected]