Sian Lewis - Brif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru

Beth wnaethoch chi astudio a pryd wnaethoch chi raddio?

Nes i astudio Business a Finance ac yna Gradd Ôl Raddedig ym maes Adnoddau Dynol.  Nes i raddio ar gychwyn y 90au.

A wnaethoch chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg o gwbl (gan gynnwys cyflwyno asesiadau yn Gymraeg / profiad Gwaith yn Gymraeg fel rhan o’ch cwrs?)

Na

Ble rydych yn gweithio nawr?  Gallwch chi egluro eich rôl?

Dwi’n Brif Weithredwr i fudiad Urdd Gobaith Cymru.

Mae’r rol yn un amrywiol a chyffrous a phrif gyfrifoldebau’r swydd ydy arwain gwaith yr Urdd, datblygu a gweithredu strategaethau’r mudiad ynghyd a bod yn gyfrifol am rheolaeth ariannol o bron I £12M.   Rwyf hefyd a chyfrifoldebau am anghenion a strwythur staffio’r Urdd a datblygu ac arwain ar greu partneriethau Cenedlaethol.  Dwi’n atebol i Fwrdd Rheoli’r Urdd ac yn adrodd nol chwarterol.

Ydych chi'n credu bod eich sgiliau iaith Gymraeg wedi eich helpu i ennill swydd? Os ie, sut?

Yn sicr, mae’r gallu i gyfathrebu ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd, ond hoffwn bwysleisio does dim angen ‘gradd yn y Gymraeg’ na lefel A Cymraeg i wneud fy swydd, beth sydd angen ydy hyder i dderbyn bod dy Gymraeg cystal â phawb arall.  

Mae ‘CysGair’ yn ffrind da iawn i mi!!!

Sian Lewis - fi a Luned Morgan (3).jpg

Ydych chi’n defnyddio eich sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle nawr, ac os felly, oes modd dweud sut rydych yn ei ddefnyddio a ha mor aml? (ar lafar / ysgrifenedig / achlysurol)

Mae cyfathrebu gyda staff a phartneriaid yn Gymraeg ac ysgrifennu Cymraeg yn rhan annatod o’r swydd.  Rwyf yn defnyddio fy sgiliau Iaith yn ddyddiol. Treuliais 6 mlynedd fel myfyriwr yn dysgu drwy’r Saesneg ond doedd hyn heb effeithiol ar fy ngallu na hyder i geisio am swyddi Cymraeg hanfodol.  

Beth, yn eich barn chi, yw manteision sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle?

Y manteision ydy fod mwy o gyfleoedd o ran swyddi os oes gyda chi ddwy Iaith.  Mae gymaint o swyddi dyddiad yma yn gofyn am sgiliau Iaith Cymraeg felly mae dwbl y cyfle gan unrhyw siaradwr Cymraeg sy’n chwilio am waith.

Mae rhai myfyrwyr yn bryderus am ei sgiliau iaith Gymraeg, a gyda diffyg hyder. Pa gyngor byddech chi’n ei roi i fyfyrwyr presennol ar gyfer cynnal a datblygu ei sgiliau iaith Gymraeg?

Yr unig gymhwyster Cymraeg sydd gennai ydy Lefel O radd ‘C’.  Wedi hynny, fel dwi di son mi wnes dderbyn 6 mlynedd o addysg bellach ac uwchradd drwy’r Saesneg.  Dwi wrth fy modd yn cyflogi unigolion sydd ag sgiliau iaith amrywiol, o ddysgwyr, i siaradwyr llai rhugl i siaradwyr hyderus - mae amrywiaeth yn bwysig i bob sefydliad.  Mae gyda ni gyd fel cyflogwyr gyfrifoldeb i annog a chefnogi siaradwyr Cymraeg llai hyderus nol mewn i weithlu Cymraeg.  Mae’r Urdd a nifer health o gyflogwyr ar draws pob sector yn cefnogi hyn.  Peidio pryderu, ewch amdani, mae eich cyfraniad i gynyddu’r nifer o bobl yng Nghymru sy’n defnyddio eu sgiliau Iaith yn hanfodol o ran ddyfodol yr Iaith.