Bethan - Swyddog Hyfforddiant ac Achredu Cyflog Byw, Cynnal Cymru

Beth wnaethoch chi astudio a pryd wnaethoch chi raddio?

Astudiais i Gymraeg yn Aberystwyth – yn graddio yn 2014 ac wedyn Astudiais i PGCET gyda Phrifysgol De Cymru – yn graddio yn 2018. 

A wnaethoch chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg o gwbwl (gan gynnwys cyflwyno asesiadau yn Gymraeg / profiad Gwaith yn Gymraeg fel rhan o’ch cwrs?) 

Astudiais i drwy gyfrwng y Gymraeg y tro cyntaf ac roedd hi’n anodd fel siardwr ail iaith ond werth e! Wnes i ddim astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yr ail dro achos ro’n i’r unig siaradwr Cymraeg ar y cwrs pan o’n i’n dechrau a do’n i ddim eisiau astudio ar fy mhen fy hun!

Ble rydych yn gweithio nawr?  Gallwch chi egluro eich rôl?

Nawr, rydw i’n gweithio i elusen Cynaliadwyedd sef Cynnal Cymru. Swyddog Hyfforddiant ac Achredu Cyflog Byw ydw i. Rydw i’n gweinyddu cyrsiau hyfforddiant ein bod ni’n rhedeg, bydda i’n dechrau gwneud sesiynau hyfforddiant fy hunan yn y flwyddyn newydd. Mae Cynnal Cymru yn bartner Cymreig am y Cwrs Carbon Literacy sy’n un diwrnod werth o ddysgu i ddangos pobl y costau carbon o fywyd bob dydd ac i ysgogi nhw i weithredu i leihau eu hallyriadau. 

Rydw i hefyd yn achredu unrhyw sefydliad Cymreig sy eisiau achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw o dan cynllun achrediad y Living Wage Foundation. Rydw i’n gweithio gydag unrhyw sefydliad sy eisiau gwneud ymrwymiad i dalu eu gweithwyr y Cyflog Byw Go Iawn sy’n raddfa dal wedi’i gyfrifo’n annibynnol i gynnwys costau byw go iawn ac nid isafswm y Llywodraeth. Mae Prifysgol De Cymru yn Gyflogwr Cyflog Byw a wnes i ei hachredu fel y 200fed cyflogwr yng Nghymru yn ôl yn 2019!

Bethan Harvey.png

Ydych chi'n credu bod eich sgiliau iaith Gymraeg wedi eich helpu i ennill swydd? Os ie, sut?

Yn bendant! Byddwn i’n mynd mor bell â dweud bod y Gymraeg wedi helpu fi ennill bob swydd fy mod i wedi cael. Ces i swyddi ble’r oedd hi’n hanfodol i siarad Cymraeg fel rhedeg siopau llyfrau Cymraeg ac yn dysgu Cymraeg lefel A ac i oedolion ond hefyd mae wedi helpu fi i gael swyddi o fewn gweinyddiaeth a chyfathrebiadau/ marchnata achos mae'n golygu eich bod chi’n gallu cyfathrebu yn y ddwy iaith.  

Ydych chi’n defnyddio eich sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle nawr, ac os felly, oes modd dweud sut rydych yn ei ddefnyddio a pha mor aml? (ar lafar / ysgrifenedig / achlysurol)

Dw i’n defnyddio fy sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle bob dydd. Rydw i’n siarad ar y ffon yn Gymraeg, cyfieithu darnau ysgrifenedig i gylchlythyr ac ar gyfyngau cymdeithasol – mae’n jyst ran o waith fi! 

Beth, yn eich barn chi, yw manteision sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle?

Yn fy marn i fanteision sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle yw:

  • Helpu pobl i gyfathrebu yn eu hiaith ddewisol
  • Cynyddu hygyrchedd y cwmni gan ddarparu gwasanaethau dwyieithog
  • Arbed arian ac amser ar gyfieithu (mewn rhai achosion – mae rhai o achosion lle cyfieithydd yw’r opsiwn gorau!)

Ydych chi'n credu bod eich sgiliau iaith Gymraeg wedi eich helpu i ennill swydd? Os ie, sut?

Yn bendant! Byddwn i’n mynd mor bell â dweud bod y Gymraeg wedi helpu fi ennill bob swydd fy mod i wedi cael. Ces i swyddi ble’r oedd hi’n hanfodol i siarad Cymraeg fel rhedeg siopau llyfrau Cymraeg ac yn dysgu Cymraeg lefel A ac i oedolion ond hefyd mae wedi helpu fi i gael swyddi o fewn gweinyddiaeth a chyfathrebiadau/ marchnata achos mae'n golygu eich bod chi’n gallu cyfathrebu yn y ddwy iaith.  

Mae rhai myfyrwyr yn bryderus am ei sgiliau iaith Gymraeg, ac gyda diffyg hyder. Pa gyngor byddech chi’n ei roi i fyfyrwyr presennol ar gyfer cynnal a datblygu ei sgiliau iaith Gymraeg?

Gallaf ddeall y pryder ond os oes cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg mae’n mor bwysig i’w gwneud! Mae’n diwylliant ni, mae’n iaith brydferth sy’n rhan o’n bywyd bob dydd ac maen eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy. 

Mae’n anodd gweithio trwy gamau lletchwith o gyfathrebu os ydych chi’n siaradwr ail iaith neu ddim yn hyderus gyda’ch sgiliau ond dim ond trwy ymarfer a byw yn y Gymraeg -  y byddech chi’n cyrraedd eich safon ddymunol.