Rydym yn cynnig apwyntiadau gyrfaoedd i fyfyrwyr a graddedigion PDC trwy Microsoft Teams (fideo) a dros y ffôn.
Rydym hefyd yn cynnig ein gwasanaeth ‘Gofyn Cwestiwn’ lle
gallwch anfon unrhyw gwestiynau yn ymwneud â gyrfaoedd atom. Mae'r gwasanaeth arweiniad hwn yn eich galluogi i gael gafael ar gymorth gyrfaoedd ar-lein, ac mae'n cynnwys yr opsiwn o anfon eich CV, llythyr eglurhaol neu gais i'w wirio.
Mae'r gwasanaethau hyn ar gael i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol De Cymru (gan gynnwys colegau partner).
Fel myfyriwr PDC, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i anfon unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â gyrfa e.e. Adolygiadau CV, astudio ôl-raddedig, chwilio am waith, cyngor ar opsiynau gyrfa a phrofiad gwaith ac ati.
Peidiwch ag anghofio cynnwys unrhyw ddogfen yr hoffech ei gwirio e.e. CV
Apwyntiadau Teams - Gallwch gyrchu Teams trwy Office 365 neu trwy lawrlwytho'r ap Teams i'ch ffôn clyfar/llechen.
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif prifysgol a byddwch yn cael galwad ar adeg eich apwyntiad.
Apwyntiadau ffôn - Os ydych chi'n archebu apwyntiad ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ein hysbysu o'ch rhif ffôn. Cewch alwad ar adeg eich apwyntiad. Byddwch yn ymwybodol y gall y galwr gael ei arddangos fel ‘No Caller ID’.
Fel fyfyriwr graddedig PDC, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i anfon unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â gyrfa e.e. Adolygiadau CV, astudio ôl-raddedig, chwilio am waith, cyngor ar opsiynau gyrfa a phrofiad gwaith ac ati.
Peidiwch ag anghofio cynnwys unrhyw ddogfen yr hoffech ei gwirio e.e. CV
Cliciwch y ddolen ‘Cwestiynau Graddedigion’ isod i ofyn am apwyntiad (efallai y bydd angen cofrestru) a dilynwch y cyfarwyddiadau manwl.
Apwyntiadau Teams - Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost yn eich cais am apwyntiad oherwydd bydd angen hwn arnom i anfon gwahoddiad apwyntiad atoch trwy Microsoft Teams.
Apwyntiadau ffôn - Os ydych chi'n archebu apwyntiad ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ein hysbysu o'ch rhif ffôn. Cewch alwad ar adeg eich apwyntiad. Byddwch yn ymwybodol y gall y galwr gael ei arddangos fel ‘No Caller ID’.