Rhyngosod / Diwydiannol

Mae lleoliad rhyngosod yn gyfle profiad gwaith dilysedig sy'n rhan o raglen gradd prifysgol o'r enw cwrs rhyngosod. Fel rheol, cymerir lleoliadau rhyngosod ym mlwyddyn olaf ond un gradd pedair blynedd.

Mae’r enw’n deillio o’r ffaith bod y cwrs yn cynnwys blwyddyn lleoliad sydd wedi’i ‘rhyngosod’ yng nghanol y radd.

Gellir ymgymryd â'r rhain unrhyw le yn y byd a gallant fod yn rhan-amser neu'n llawn amser.